Cynghorion Diogelwch ar gyfer y Nadolig
Mae'n debygol y bydd dros 80,000 o bobl yn mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys dros y wlad dros 12 diwrnod y Nadolig.
Mae'r Nadolig yn debygol o fod yn gyfnod pan fydd eich cartref yn llawn pobl, a gyda chyffro'r tymor, mae damweiniau'n gallu digwydd yn hawdd. Ond un o'r pethau da am y Nadolig yw bod mwy o bobl o gwmpas i oruchwylio'r plant fel arfer, a gydag ychydig yn fwy o ofal a chynllunio ymlaen llaw, byddai modd osgoi'r rhan fwyaf o ddamweiniau.
Dilynwch y 12 cyfarwyddyd canlynol er mwyn helpu i atal damweiniau y Nadolig hwn...
- Dylech sicrhau eich bod yn prynu anrhegion plant ar gyfer y grŵp oedran cywir a chan ffynonellau y mae ganddynt enw da ac y maent yn cydymffurfio gyda safonau (e.e. Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 1995)
- Cofiwch brynu batris ar gyfer y teganau y mae gofyn cael batris i'w rhedeg – trwy wneud hyn, ni fyddwch yn cael eich temtio i dynnu'r batris allan o larymau mwg
- Cadwch olwg am eitemau bach y gallai plant ifanc dagu arnynt, gan gynnwys darnau sydd wedi syrthio oddi ar deganau neu goed Nadolig, batris botwm a balŵns y maent wedi byrstio
- Dylech gadw addurniadau a chardiau i ffwrdd o danau a ffynonellau gwres eraill megis gosodiadau golau. Ni ddylech adael canhwyllau i losgi heb i neb fod yno, a dylech sicrhau eich bod yn eu diffodd cyn mynd i'r gwely, ac ni ddylech roi canhwyllau ar goed Nadolig
- Os oes gennych hen oleuadau Nadolig, dylech ystyried prynu rhai newydd, a fydd yn cydymffurfio gyda safonau diogelwch lawer yn uwch. Ni ddylech gynnau'r golau nes byddwch wedi gorffen addurno'r goeden Nadolig, ni ddylech adael i blant chwarae gyda goleuadau (mae rhai wedi llyncu'r bylbiau) a chofiwch eich bod yn diffodd y golau pan fyddwch yn gadael y tŷ neu'n mynd i'r gwely
- Cofiwch, nid teganau yw tlysau Nadolig, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel teganau, ac ni fydd yn rhaid iddynt gydymffurfio gyda rheoliadau ynghylch diogelwch teganau. Dylech ystyried ble y byddwch yn eu gosod yn ofalus iawn, er enghraifft, dylech eu rhoi i fyny yn uchel ar goed Nadolig, lle na fydd modd i ddwylo ifanc eu cyrraedd
- Dylech roi digon o amser i'ch hun baratoi a choginio cinio Nadolig er mwyn osgoi damweiniau gyda braster poeth, dŵr berwedig a chyllyll miniog, a fydd yn digwydd wrth ruthro, a dylech gadw unrhyw un nad ydynt yn helpu gyda'r cinio, allan o'r gegin. Dylech sychu unrhyw beth sy'n colli yn gyflym
- Dylai fod gennych siswrn wrth law er mwyn agor deunydd pacio, er mwyn sicrhau na fyddwch yn cael eich temtio i ddefnyddio cyllell, a dylech gael sgriwdreifers yn barod er mwyn gosod teganau
- Byddwch yn ymwybodol o geblau a gwifrau sy'n llusgo pan fyddwch yn rhuthro i gysylltu teclynnau a dyfeisiau newydd, a dylech ddarllen y cyfarwyddiadau bob amser
- Cwympo yw achos y damweiniau mwyaf cyffredin, felly dylech sicrhau bod cyn lleied o annibendod o gwmpas ag y bo modd. Dylech sicrhau bod grisiau wedi'u goleuo yn dda a'u bod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau, yn enwedig os bydd gwesteion gyda chi
- Dylech gynllunio partïon tân gwyllt Blwyddyn Newydd ymhell o flaen llaw, gan ddilyn y Cod Diogelwch Tân Gwyllt
- Ni ddylech yfed a gyrru, a dylech gynllunio teithiau hir er mwyn sicrhau na fyddwch yn gyrru pan fyddwch wedi blino.
Boed i chi gael Nadolig diogel a hapus
Share this page: